Egalitariaeth

Athrawiaeth gymdeithasegol neu ysgol feddwl yn athroniaeth wleidyddol yw egalitatriaeth neu gydraddoliaeth sy'n gosod cydraddoldeb yn nod ar gyfer cyfundrefn cymdeithas. Gallai gymhwyso cydraddoldeb o ran amodau cymdeithasol, canlyniadau economaidd, gwobrwyon, neu freintiau.[1] Er enghraifft, yn achos mudoledd cymdeithasol, nod egalitariaeth yw sicrhau'r cyfle i bob unigolyn allu gwella ei statws economaidd-gymdeithasol, neu i'r unigolyn ennill ei le yn y gymdeithas o ganlyniad i'w ddoniau, y drefn a elwir meritocratiaeth. Yn gyffredinol, mae egalitariaeth yn un o daliadau'r adain chwith, ac yn nodwedd bwysig o ideolegau sosialaidd megis democratiaeth gymdeithasol, comiwnyddiaeth, a Marcsiaeth. Cofleddir dealltwriaethau amgen o egalitariaeth gan safbwyntiau eraill ar y sbectrwm gwleidyddol. Mae rhyddfrydwyr ac unigolwyr yn tueddu i ddadlau dros gyfleoedd cyfartal i bawb, ond nid o reidrwydd yn gwneud iawn am annhegwch drwy achos genedigaeth, megis cyfoeth teuluol.

  1. (Saesneg) "Egalitarianism" yn A Dictionary of Sociology (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1998). Adalwyd ar 12 Awst 2019.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in